Darperir cinio ysgol yn yr ysgol. Ar hyn o bryd y gost yw £2.50 y dydd, £12.50 yr wythnos. Dylid talu arian cinio trwy siec neu arian parod yn wythnosol trwy roi amlen ag enw a dosbarth eich plentyn wedi ei farcio’n glir yn y bocs Arian Cinio yng nghyntedd y Cyfnod Sylfaen.
Rhoddir prydau ysgol am ddim i blant os yw’r rhieni yn derbyn Cymorth Incwm.
Cysylltwch â’r ysgol neu Swyddfa Cinio am Ddim y Sir (01267 224532) am fanylion pellach a ffurflen gais. Mae cyfleusterau ar gyfer bwyta brechdanau ar gael.
Gofynnwn yn garedig i chi beidio danfon diodydd ffisi, melys neu diodydd mewn poteli gwydr i’r ysgol. Dylai bocsys brechdanau fod yn iachus.
http://www.sirgar.llyw.cymru/cartref/preswylwyr/addysg-ac-ysgolion/prydau-ysgol/prydau-ysgol-gynradd/#.V2cAR7srLIU
Please click to open
File size: 774 KB (PDF File)